Y Coetiroedd hyn

Coetir Ffynone and Cilgwyn

Mae Coetir Ffynone a Cilgwyn wedi’i leoli mewn dyffryn diarffordd yng Ngogledd Sir Benfro, tua saith milltir i’r de o Aberteifi.

Mae’r coetiroedd yn ymestyn i oddeutu 325 erw ac yn flaenorol roeddent yn rhan o ystâd Plasty Ffynone. Yn wreiddiol, byddai wedi bod yn goetir frodorol yn bennaf o dderw dros brysgwydd, gyda nifer o gonifferau wedi’u plannu yn y 1780au.

Mae gan y coetir bedair afon a rhaeadr, gyda gweddillion y coetir hynafol, yn cynnwys nifer o dderw hynafol, wedi’u lleoli’n bennaf o amgylch yr afonydd. Mae’r coetir wedi’i amddiffyn o dan Safle o Diddordeb Gwyddonol Arbennig (Site of Special Scientific Interest [SSSI]) a hefyd yn Faes Cadwraeth Arbennig (Special Area of Conservation [SAC]).

Mae gan y coetir bedair afon a rhaeadr, gyda gweddillion y coetir hynafol, a yn nifer o dderw hynafol

Mae gan y coetir bedair afon a rhaeadr, gyda gweddillion y coetir hynafol, a yn nifer o dderw hynafol

Y newid yn y defnydd o goed

…a’r angen am bren wedi llifio

Mae hanes coetiroedd yn sail i darddiad ein Cwmni. Mae’r llu o eitemau y gellir eu cynhyrchu yn cynnwys ffensio, pren wedi llifio a bwyd. Mae’r ffaith fod y coetir unwaith yn gorchuddio’r tirwedd gyfan yn golygu – hyd yn oed o’i gymharu ag amaethyddiaeth – fod diwylliant Silva (rheoli coed) yn hen.

Roedd datblygu caeau mas o goetiroedd yn cymryd ymdrech anhygoel. Adlewyrchir hyn trwy ddewis y tir gorau i’w glirio gyntaf i ddatblygu caeau, tra bod y coetir sy’n weddill yn cael ei ddarparu ar gyfer llawer o anghenion pobl – ffensio i warchod stoc, pren wedi llifo i adeiladu cartrefi ac ysguboriau, ffyn pys a ffyn ffa i dyfu llysiau yn y gerddi, a derw anferth ar gyfer adeiladu llongau.

Roedd gan bob coeden ei defnydd, er enghraifft er mwyn creu olwynion cart defnyddiwyd llwyfen ar gyfer hybiau’r olwyn oherwydd nad yw’n hollti, yr onnen ar gyfer creu sbôcs a’r derw ar gyfer y rhimyn.

Effaith y chwyldro diwydiannol a’r Rhyfeloedd Byd

Wrth i gliriadau coetiroedd gynyddu yn enwedig yn ystod y chwyldro diwydiannol datblygwyd deunyddiau amgen ac o ganlyniad dim ond mewn cymoedd a lleoedd eraill ble roedd y tir yn ymylol y goroesodd y coetiroedd.

Mae coetiroedd Ffynone a Cilgwyn fel y gwelir heddiw yn cynnwys gweddillion yr hanes hwnnw, yn ogystal â phlanhigfeydd ôl Ail Ryfel Byd pan y brif ystyriaeth oedd tyfu coed a fyddai’n tyfu yn gyflym i ddarparu pren wedi llifio a fyddai’n addas pe bai rhyfel arall.

Yn y rhuthr i dyfu pren ar unrhyw gost, tynnwyd y coed derw oedd yn tyfu’n araf a’u disodli gan gonifferau sy’n tyfu’n gyflym.

Cydbwyso anghenion y safle gyda’r angen lleol am bren wedi’i lifio

Ein bwriad yw dod o hyd i gydbwysedd mwy sensitif. Y rheswm am hyn yw fod syniadau cyfoes yn honni bod cynefinoedd pwysig yn cael eu colli drwy’r dull hwn. Felly anelwn at greu cyd bwysedd rhwng anghenion y safle ac anghenion y gymuned dros y tymor hir.

Unwaith, dim ond yn lleol y defnyddiwyd pren. Ond dros y 50 mlynedd diwethaf mae trafnidiaeth fodern wedi galluogi i bren llifio gael ei ddosbarthu o gwmpas y byd.

Credwn ei bod yn syniad da plannu amrywiaeth eang o rywogaethau coed er mwyn darparu ar gyfer anghenion lleol amrywiol. Efallai y bydd angen hyn mewn byd ôl-ffosil, byd wedi’i ddad-lobaleiddio, byd y gallwn ddychwelyd ato yn y dyfodol.

Ers prynu’r coetir, rydym wedi mabwysiadu polisi gorchudd parhaus

Rydym wedi amrywio’r rhywogaethau pren gyda llawer o goed bwytadwy, fel castanwydd, cyll, cnau Ffrengig a ffrwythau.

Rheoli Coetiroedd

Pan brynon ni y goetir yn 2006 roedd yn cynnwys:

  • Pan brynon ni y goetir yn 2006 roedd yn cynnwys (PAWs)
  • 30 erw o goetir hynafol
  • 125 erw o blanhigfa ar hen dir amaethyddol

Ers prynu’r coetir rydym wedi mabwysiadu polisi gorchudd parhaus ac wedi bod yn teneuo’r conifferau. Mae pren wedi llifio o’r coetir yn cael ei brosesu yn y felin goed ac yn darparu amrywiaeth o ddefnydd gan gynnwys pren wedi llifio ar gyfer y gymuned leol.

Beth yw gorchudd parhaus?

Mae gorchudd parhaus yn golygu bod y coed yn cael eu teneuo wrth iddynt dyfu, i roi’r lle delfrydol rhwng y coed. Mae hadau coed yn y ddaear yn egino wrth i’r golau a’r gwres gyrraedd llawr y goedwig, a dechrau tyfu. Dros amser, bydd hyn yn creu ystod o goed o ran oedran a rhywiogaethau ym mhob ardal.

Roedd rhai ardaloedd wedi’u clirio a’u hailblannu, yn weriddiol er mwyn cynyddu’r cynnwys o goed llydanddail brodorol. Hefyd yn 2014 cafwyd gwyntoedd anarferol o gryf mawr ac mae’r ardaloedd hynny hefyd wedi’i ailblannu.

Llwybrau mynediad i gerddwyr, beicwyr a marchogion · Cliciwch ar y llun i’w fwyhau · Cliciwch yma argraffu.

Hanes Coetiroedd Ffynone

Maint gwreiddiol ystâd Ffynone oedd 2,500 erw yn cynnwys 12 fferm. Roedd y tir yn cynnal nifer llawer mwy o bobl yn hanesyddol, a byddai’r coetir wedi cael ei reoli ar gyfer hela, pysgota ac amrywiaeth helaeth o ddeunyddiau ar gyfer diwydiant, crefft a chartrefi. Cloddiwyd clai a’i allforio ar gyfer brics a chrochenwaith.

Newidiadau a datblygiadau dros y canrifoedd

Yn 1752 prynodd y teulu Colby yr ystâd ac ym 1793 plannwyd nifer o goed, yn bennaf ar lannau serth yr afon. Adeiladodd John Nash, pensaer enwog Eglwys Gadeiriol St Paul’s, blasty Ffynone yn y 1790au, un o’i weithiau preifat gorau.

Ar un adeg fferm saith erw oedd safle y llyn, ond ym 1921 adeiladwyd argae ac fe’i boddwyd i ddarparu trydan i’r plasty. Ym 1956 rhannwyd yr ystâd a thorrwyd y coed, gan gynnwys y goeden fwyaf yng Nghymru ar y pryd.

Prynwyd y coetir gan Calon yn Tyfu yn 2006, ac ers hynny mae’r gwaith a ddisgrifiwyd uchod wedi’i wneud i reoli’r coetir yn ogystal â sefydlu iard bren leol i ddarparu pren wedi llifio a chynhyrchion eraill.

Y Mabinogi

Deellir bod y rhaeadr yng nghoetir Ffynone yn leoliad un o straeon enwocaf y Mabinogi sef stori Pwyll, Pendefig Dyfed a aeth ar daith enwog i Annwn.

Deellir bod y rhaeadr yng nghoetir Ffynone yn leoliad un o straeon enwocaf y Mabinogi