Melin bren a Choed Tân
Pren lleol o ffynonellau cynaliadwy
Ar gyfer yr holl ofynion adeiladu, rydym yn torri y pren yn unol a’r archeb a’i felino yn ein iard goed o’n coetiroedd ni neu o ffynonellau lleol cyfagos.
Melino pwrpasol o trawstiau, byrddau, cladin – plu ochrog & ochr waney a pren wedi’i raddio.
Rydym yn darparu melin goed i bobl sy’n byw yng Ngorllewin Cymru, yn ogystal â darparu pren i brosiectau ledled y DU.
Dewiswch eich pren yma
~ Rydym yn melino coed Douglas Fir fel arfer ~
Os oes angen rhywogaethau pren gwahanol arnoch, cysylltwch â ni.
Rhowch eich archeb dros dro yma. Byddwn yn gwirio lefelau stoc ac yn dod yn ôl atoch – os byddwch yn cydsynio gallwch symud ymlaen i daliadau.
Yn anffodus dim ond yn Saesneg mae ein cyfrifiannell pren ar gael ar hyn o bryd.
Thanks for your enquiry, we have sent you a quotation.
You can also contact us at info@growingheart.co.uk
Rydym yn darparu melin goed i bobl sy’n byw yng Ngorllewin Cymru, yn ogystal â darparu pren i brosiectau ledled y DU.
Firewood
Llwyth pren caled neu bren meddal
Archeb pren caled
Gymysgedd o goed onnen, derw, bedw, a helyg yn bennaf
Hyd toriad safonol
yw 10’’ ond os oes angen, gallwn dorri hyd at 18”
Price
£250
+ Tâl cludiant os ydych y tu allan i’n radiws lleol o 7 milltir.
Archeb pren meddal
Coniffer Douglas
Hyd toriad safonol
yw 10’’ ond os oes angen, gallwn dorri hyd at 24”
Price
£220
+ Tâl cludiant os ydych y tu allan i’n radiws lleol o 7 milltir.
Rhowch eich archeb dros dro yma.
Byddwn yn gwirio lefelau stoc ac yn dod yn ôl atoch – os byddwch yn cydsynio gallwch symud ymlaen i daliadau.
Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau Cyffredin Pren
Pa bren ydych chi'n ei werthu?
Yn y felin goed rydym yn torri’r pren conifferau Douglas yn arw. Ar ofyn weithiau byddwn hefyd yn torri pren llarwydd, derw, hemlog orllewinol a sbriws Norwy.
Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn chwilio am gyflenwyr pren lleol, ac felly rydyn ni’n cynnig yr holl bren wedi eu llifio’n arw wrth i bren dyfu yn ein coedwigoedd neu’n lleol.
Pa hyd ydych chi'n eu gwerthu?
Gallwn dorri unrhyw hyd, hyd at 13 metr. Mae ein melin goed yn torri hydoedd arferol o 2.4m, 3m, 3.6m, 4.2m, 4.8m.
Os am hyd gwahanol i’r rhain, bydd angen i chi drafod y pris gyda ni, ac hefyd y costau cludiant rhag ofn bydd angen trafnidiaeth arbennig (ar gyfer pren hir)
Allwch chi gludo pren o'r felin goed?
Gallwn gyflenwi archebion o’r felin goed. Mae cludiant rhad ac am ddim o fewn 7 milltir i’r felin goed. Mae’r gwasanaeth cludiant rhad ac am ddim hwn yn cynnwys y mwyafrif o leoedd ym Moncath, Capel Newydd, Castell Newydd Emlyn, Abercych, Crymych, Llanfrynach, Glandŵr, Hermon, Tegryn, Aberteifi, Eglwyswrw a Llandudoch.
Mae’n costio £ 2.50 y filltir y tu hwnt i hyn, sy’n talu am y costau ychwanegol.
Ydych chi'n gwerthu pren wedi'i drin?
Rydym yn gwerthu pren heb ei drin yn bennaf ar ffurf pren wedi ei lifio’n arw yn y felin goed. Gwyddys bod y pren a ddefnyddiwn – conifferau Douglas yn bennaf – yn bren gwydn iawn i’w ddefnyddio tu mewn ac yn yr awyr agored heb gael ei drin.
Os oes angen pren wedi’i drin arnoch chi, gallwn gydweithio â Merlwood Timber i drefnu hyn ar gyfer archebion mawr.
Ydych chi'n gwerthu pren wedi aeddfedu?
Mae gennym stoc gyfyngedig o bren yn yr iard goed, a bydd peth ohono wedi aeddfedu. Rhowch alwad i ni os oes angen hwn arnoch a gallwn weld a oes gennym unrhyw beth mewn stoc i ddiwallu’ch anghenion.
A allaf ffonio rhywun?
Gallwch! Ffoniwch 01239 841675 Gadewch neges os rydym allan yn y felin goed neu yn cyflenwi archebion.
A allwn ni ddod i gael golwg?
Yn anffodus, ni allwn alluogi mwyafrif o’r geisiadau i ymweld â ni i weld y stoc yn y felin goed a’r iard goed. Mae croeso i chi ymweld â’r coetiroedd sydd â milltiroedd o draciau sy’n addas ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogion.
Weithiau efallai y bydd yn bosibl ymweld â’r felin goed ar amser a drefnwyd ymlaen llaw.
Fodd bynnag, gan eu bod yn felin goed ac iard goed weithredol gyda pheiriannau trwm yn cael eu defnyddio, mae hyn yn gyfyngedig o ran sicrhau diogelwch. Nid ydym bob amser yno i gwrdd â phobl. Peidiwch ag ymweld â’r felin goed heb gadarnhau gyda ni yn gyntaf.
Ydy’r pren wedi ei lyfnhau (PAR)?
Nac ydy, Dydyn ni ddim yn cynnig pren wedi ei lyfnhau.
Ydych chi'n graddio'r pren?
Pam ei fod yn ddrytach o'i gymharu â Jewsons?
Yn bennaf, mae Jewsons yn gwerthu pinwydd gwyn sydd wedi’i drin, ac wedi’i fewnforio. Rydym yn gwerthu conifferau Douglas a phren llarwydd o ffynonellau lleol o’r ansawdd uchaf sydd wedi ei dyfu a’i dorri yng nghoetir Ffynone yn Sir Benfro.
Mae’r pren wedi’i dorri mewn melin goed leol ac rydym yn talu cyflog da i’r holl staff. Ni ellir cymharu ein cynnyrch gyda chynnyrch Jewsons.
Cwestiynau Cyffredin Coed Tân
Ydych chi'n cludo?
Ydyn, mae’r cludiant yn rhad ac am ddim o fewn 7 milltir i’n melin goed. Mae’r gwasanaeth cludiant rhad ac am ddim yn cynnwys y mwyafrif o leoedd yn Boncath, Capel Newydd, Abercych, Crymych, Llanfrynach, Glandŵr, Castell Newydd Emlyn, Hermon, Tegryn, Aberteifi, Eglwyswrw a Llandudoch.
Ar ôl hynny mae’n £ 2.50 y filltir – mae hyn yn talu y costau tanwydd ychwanegol.
Ydy’r coed tân wedi eu haeddfedu?
Pa feintiau ydych chi'n eu cynnig?
Rydym yn torri darnau rhwng 25cm-50cm. 25cm yw’r dewis mwyaf poblogaidd.
Gallwn hefyd dorri yn llai (20cm) i losgwyr llai, ond codir tal ychwanegol o £10 oherwydd y costau llafur sy’n gysylltiedig â hyn.
